9Bach - Hanner Cant, 13 Gorffennaf 2012 - Video
PUBLISHED:  Aug 21, 2013
DESCRIPTION:
I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, chwaraeodd 50 o'r bandiau ac artistiaid Cymraeg gorau mewn gŵyl enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid.

Hanner Cant oedd un o'r gigs Cymraeg mwyaf ers degawdau, gyda bandiau'n chwarae ar dri llwyfan o 6yh nos Wener ac o ganol dydd Sadwrn hyd at yr oriau mân. Byddwn yn cyhoeddi fideos o gymaint o'r perfformiadau ag sy'n bosib dros yr wythnosau a misoedd nesaf.

Mae'r frwydr yn parhau... ymunwch â'r ymgyrch! http://cymdeithas.org

Diolch i S4C, Rondo, a'r holl artistiaid am eu caniatâd i ddangos y fideos.

Gogwydd cyfoes ar gerddoriaeth werin, gydag uniad o alawon traddodiadaol ac arddulliau ac offerynnau cyfoes yn gyfeiliant i lais persain Lisa Jên. Mae 9Bach wedi ennill clod ar draws y byd am eu hagwedd newydd at hen gerddoriaeth, gan berfformio mewn gwyliau rhyngwladol fel WOMAD a theithio ar draws Awstralia gyda cherddorion brodorol The Black Arm Band. http://www.9bach.com
follow us on Twitter      Contact      Privacy Policy      Terms of Service
Copyright © BANDMINE // All Right Reserved
Return to top