Plu - Tyrd yn Ôl - Video
PUBLISHED:  Oct 07, 2013
DESCRIPTION:
Brawd a dwy chwaer - Elan, Marged a Gwilym Rhys o adral Eryri yng Ngogledd Cymru yw'r grwp Plu, a ffurfiodd yn Haf 2012. Mae swn Plu yn werin amgen gyda dylanwadau o ganu gwlad ac americana. Yn ogystal a'u caneuon gwreiddiol eu hunain mae Plu yn chwarae addasiadau o ganeuon traddodiadol o Gymru a thu hwnt. Mae harmoniau tri llais yn ran mawr o'u swn ond mae Elan, Marged a Gwil hefyd yn chwarae amrywiaeth o offerynnau gwerinol gan gynnwys guitar, bazuki, mandolin, accordion ac auto harp.

Yn ogystal a pherfformio sesiwn acwstic ar gyfer BBC Radio Cymru fis Tachwedd 2012 ymddangos ar raglen 'Stiwdio Gefn' S4C fis Chwefror 2013 ac 'Y Lle' ym mis Ebrill 2013, cafodd Plu ei enwebu ar gyfer rhestr fer gwobr 'Band Newydd Gorau' yng ngwobrau cylchgrawn Y Selar yn 2013.
follow us on Twitter      Contact      Privacy Policy      Terms of Service
Copyright © BANDMINE // All Right Reserved
Return to top