Mr Huw

 V
Location:
Caernarfon, Wales, UK
Type:
Artist / Band / Musician
Genre:
Pop
Label:
ma label copa yn rhyddhau fy albym cyntaf 16-7-07.
MR HUW - DIRTY NORTH WALIANS

“A musician who goes against the flow with ideas, energy and countless melodies,

Mr Huw is one of the true characters of the underground scene”

Huw Stephens



Recording material in his north Walian cave since 2007, nonconformist mr huw (Huw Owen)

delves into places the deepest, darkest imagination wouldn’t dare go.

Recording everything himself on an 8 track, amongst other archaic machines,

he combines electronic beats with raw sound and memorable pop melodies.

mr huw’s debut album ‘Llond Lle o Hwˆ rs a Lladron’ featured at number 18 in bandage.com’s 50 best

things of 2008 list, and his second album ‘Hud a Llefrith’ was voted Album of the Year at BBC Radio

Cymru C2’s Rock and Pop Awards 2010. At the same ceremony he also won

the award for Live Session of the Year with his band.

Produced and unleashed independently, ‘dirty north walians / gogleddwyr budur’ is mr huw’s first adventure

into releasing English material, and his recording technique has evolved once during in its production. mr huw

continues to challenge genres and boundaries in his own unique way, combining and arranging instrumentation,

melodies and lyrics effectively with great imagination, dark humour and well-honed musical expression.

‘dirty north walians / gogleddwyr budur’ will be available as a free download from mrhuw.com

from Monday, December the 6th 2010.

--------------------------------------------------------------------

MR HUW - GOGLEDDWYR BUDUR



“Cerddor sy’n mynd yn erbyn y llif gyda syniadau, egni a melodïau di-ri,

mae Mr Huw yn un o wir gymeriadau’r sin danddaearol”

Huw Stephens

Yn recordio o’i ogof yng ngogledd Cymru ers 2007, mae’r anghydffurfiwr mr huw (Huw Owen)

yn plymio i ddyfnderoedd na fyddai’r dychymyg tywyllaf yn meiddio mynd yn agos iddynt.

Yn recordio popeth ei hun ar 8 trac ymhlith peiriannau hynafol eraill, mae’n cyfuno

curiadau electroneg gyda synau amrwd a melodïau pop cofiadwy.

Llwyddodd albym gyntaf mr huw ‘Llond Lle o Hwˆ rs a Lladron’ i gyrraedd rhif 18 yn rhestr

50 o bethau gorau 2008 bandage.com, ac enillodd ei ail albym ‘Hud a Llefrith’ wobr

Albym y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop C2 BBC Radio Cymru 2010.

Enillodd hefyd y wobr am Sesiwn Fyw y Flwyddyn wrth berfformio gyda’i fand.

Wedi’i gynhyrchu yn hollol annibynnol, ‘dirty north walians / gogleddwyr budur’ yw’r gwaith

cyntaf i mr huw ryddhau yn Saesneg, ac mae ei ddull recordio wedi esblygu unwaith eto wrth ei

chynhyrchu. Mae’n parhau i herio genre a gwthio ffiniau, gan gyfuno a threfnu offerynnau, melodïau a

geiriau’n effeithiol gyda chryn ddychymyg, synnwyr digrifwch tywyll a mynegiant cerddorol crefftus.

Bydd ‘dirty north walians / gogleddwyr budur’ ar gael fel lawrlwythiad rhad ac am ddim o

mrhuw.com o ddydd Llun, Rhagfyr y 6ed 2010.
0.02 follow us on Twitter      Contact      Privacy Policy      Terms of Service
Copyright © BANDMINE // All Right Reserved
Return to top